Cymhareb Pwll

Rhaid goruchwylio plant dan 8 oed yn ôl y cymarebau hyn:

  • Rhaid i blant dan 8 oed fod yng nghwmni person cyfrifol (16 oed a hŷn)
  • Rhaid i blant dan 4 oed fod yng nghwmni person cyfrifol (Un Plentyn i Un Oedolyn).
  • Rhaid i blant rhwng 4 a 7 oed fod yng nghwmni person cyfrifol (dau blentyn i un oedolyn).
  • Gall plant 8 oed a hŷn fynd i mewn heb oruchwyliaeth, fodd bynnag rhaid goruchwylio unrhyw blentyn nad yw’n nofiwr hyderus waeth beth fo’i oedran.

Gwybodaeth Diogelwch

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod chi’n cael cymaint o hwyl â phosibl tra byddwch chi yn Celtic Leisure, ond mae hefyd yn bwysig iawn i ni eich bod chi’n aros yn ddiogel.

Mae Dylan y Dolffin yn treulio llawer o amser gyda ni ac mae’n ffrindiau da gyda’r tîm achubwyr bywyd a fydd yn eich cadw’n ddiogel tra byddwch chi’n cael hwyl ond, maen nhw angen eich help chi.

Awgrymiadau Dylan

Dyma awgrymiadau diogelwch gorau Dylan i’ch helpu i gael hwyl a bod yn ddiogel pan fyddwch chi yn Celtic Leisure.

  • Darllenwch yr holl arwyddion yn y pyllau byddan nhw’n eich helpu i aros yn ddiogel.
  • Arhoswch yn eich dyfnder.
  • Cerddwch o amgylch y pwll bob amser.
  • Dim plymio.
  • Dilynwch gyfarwyddiadau’r achubwr bywyd bob amser.
  • Rhaid i chi fod yn 1.1m i fynd ar y sleidiau dŵr
  • Peidiwch â bwyta cyn mynd i nofio.

Awgrymiadau i Rieni

  • Gwiriwch faint o achubwyr bywyd sydd ar ddyletswydd a ble maen nhw wedi’u lleoli.
  • Peidiwch â gadael eich plentyn heb oruchwyliaeth, hyd yn oed os ydyn nhw’n gwisgo cymorth nofio.
  • Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo’n sâl o gwbl, peidiwch â dechrau nofio. Os ydych chi eisoes yn nofio, nofiwch i ymyl y pwll a rhybuddiwch achubwr bywyd.
  • Atgoffwch eich plentyn i gerdded yn ardal y pwll a mynd i’r dŵr gyda chi yn unig.
  • Anogwch eich plentyn i wylio beth mae’r achubwyr bywyd yn ei wneud a dechrau nodi pa weithgareddau yn y pwll sy’n beryglus.
  • Cofrestrwch eich plentyn mewn dosbarthiadau nofio neu oroesi personol.
  • Peidiwch â nofio dan ddylanwad alcohol neu os ydych chi wedi cymryd cyffuriau anghyfreithlon.
  • Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu dros y cownter, gwiriwch a yw’n effeithio ar ymarfer corff neu a fydd yn achosi cysgadrwydd.

Dillad Nofio

  • Dylid gwisgo dillad nofio arferol.
  • Rhaid i blant dan 2 oed wisgo cewynnau nofio.