Mae Aberavon Aqua Splash yn antur pad sblasio eithaf! Dewch i fwynhau’r hwyl ar ddiwrnod heulog o haf gyda mwy na 30 o nodweddion dŵr gan gynnwys ffynhonnau, jetiau a ‘rhaeadrau’! Byddwch yn barod i adael i’r plant fynd yn rhydd, ni fyddant eisiau gadael unwaith y byddant wedi dechrau!
Bydd yna hefyd ardaloedd eistedd a chyfleusterau newydd o amgylch safle’r Splash Pad, fel y gall rhieni ymlacio tra bod y plant yn gwisgo eu gwisgoedd nofio ac yn plymio drwy’r parc sblasio dyfrllyd. Gwyliwch wrth i’ch babanod dŵr bach lithro a llithro ar draws y maes chwarae llawn hwyl; gan neidio o un nant i’r llall. Mae’n ffynhonnau o hwyl i’r teulu cyfan!
Peidiwch ag anghofio dod â’ch dillad nofio, fyddwch chi wir ddim eisiau colli allan!
Rhaid gwisgo dillad addas.
Noder, yn ystod tywydd eithafol, fel taranau, mellt a gwyntoedd cryfion, efallai y bydd yr atyniad ar gau. Ni fydd Aberavon Aqua Splash yn agor mewn tymereddau islaw 10 gradd Celsius.
Oriau Agor
Dydd Sadwrn 23ain Mai – Dydd Sul 6fed Medi
| Dydd | Amser |
| Dydd Lluny | 10am - 7pm |
| Dydd Mawrth | 10am - 7pm |
| Dydd Mercher | 10am - 12pm (Sesiwn Gynhwysol) |
| 12.30pm - 7pm | |
| Dydd Iau | 10yb - 7pm |
| Dydd Gwener | 10am - 7pm |
| Dydd Sadwrn | 10am - 7pm |
| Dydd suly | 10am - 12pm (Sesiwn Gynhwysol) |
| 12.30pm - 7pm |