fbpx

Mae’r tîm Diogelwch Dwr yn cynnal nifer o gyrsiau Cymhwyster Achub Bywyd y Pwll Cenedlaethol (NPLQ) 8fed Rhifyn Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd i roi’r gofyniad sylfaenol i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am swyddi fel achubwyr bywyd pwll/swyddogion hamdden.

Fel darpar achubwyr bywyd pwll, rhaid i ymgeiswyr am gwrs:

  • fod yn 16 oed cyn yr asesiad
  • cwblhau isafswm o 36 o oriau cyswllt mewn hyfforddiant theori ac ymarferol cyn yr asesiad
  • cwblhau ymarferion yn y llyfryn ‘Yr Achubwr Bywyd’ yn ystod y cwrs

Bydd ymgeiswyr yn cael prawf ar ddiwrnod cyntaf y cwrs a byddant yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gallu pasio’r prawf gallu nofio a hyder yn y dwr. Os na fydd yn cwblhau’r prawf ar ddechrau’r cwrs, ni fydd yr ymgeisydd yn gallu parhau â’r cwrs. Ni roddir ad-daliadau i ymgeiswyr sy’n methu’r asesiad gallu nofio.

Rhaid eich bod yn gallu:

  • neidio i’r pen dwfn
  • nofio 50 metr mewn llai na munud
  • nofio’n barhaus am 100 metr ar eich cefn a’ch blaen
  • plymio i ran ddyfnaf y pwll i ôl manicin
  • troedio dwr am 30 eiliad
  • dringo allan o’r pwll heb gymorth

 

Dyddiadau’r cwrs achub bywyd