Mae Celtic Leisure yn falch o gynnig nofio AM DDIM yn ystod amseroedd nofio cyhoeddus i bersonél y lluoedd arfog a chyn-filwyr sy’n byw yng Nghymru.
Mae’r fenter newydd hon yn rhan o Gynllun Nofio Am Ddim Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru (AFFS).
Gall personél y lluoedd arfog sydd ar wyliau a chyn-filwyr elwa o’r cynllun drwy ymweld ag un o’n 4 pwll a chyflwyno eu Cerdyn Braint Amddiffyn y Weinyddiaeth Amddiffyn i gofrestru.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ac i wneud cais am eich Cerdyn Braint Amddiffyn ewch i www.defencediscountservice.co.uk