Edrychwch drwy’r tabl isod i bennu pa fath o dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch.
Pan fyddwch yn ymweld ag un o’r safleoedd cais i brosesu’ch cais PTL, fel gyda’r rhestr wirio ymaelodi, bydd angen i chi ddod â thystiolaeth o’r budd-dal yr ydych chi’n ei hawlio/wedi’ch enwi arno ynghyd â phrawf cyfeiriad diweddar ar wahân megis bil Treth y Cyngor neu gyfleustod diweddar.
Prawf cyfeiriad
Pob Ymgeisydd: Mae angen prawf cyfeiriad ar gyfer pob ymgeisydd e.e. bil diweddar neu fil Treth y Cyngor. Ar gyfer ymgeiswyr sy’n blant, gall prawf cyfeiriad fod yn llythyr dyfarniad neu’n unrhyw gais am fudd-dal arall sy’n rhestru’r plant ac yn dangos y cyfeiriad cartref. Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau, ffoniwch Swyddfa PTL am gyngor – 0300 365 5566.
Math o Fudd-dal | Budd-dal Prawf Angenrheidiol |
Budd-dal Tai / LHA | Llythyr diweddar o’r Adran Budd-dal Tai yn cadarnhau derbyn budd-dal |
Budd-dal Treth Gyngor (nid SPD) * | Llythyr diweddar o Adran Treth y Cyngor yn cadarnhau derbyn budd-dal |
Cymhorthdal Incwm | Y llythyr dyfarniad, neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal |
Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm) |
I brofi Lwfans Ceiswyr Swydd (yn seiliedig ar incwm) mae’n rhaid dangos y llythyr datganiad budd-dal tair tudalen i gyd a roddir pan dderbynnir y budd-dal cyntaf.
Neu gall y Swyddfa PTL roi ffurflen gadarnhau PTL i chi i’r Ganolfan Waith ei gadarnhau a’i stampio i chi. |
Gwarant Credyd Pensiwn | Y llythyr dyfarniad neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal |
Credyd Treth Gwaith a Thriniaeth y GIG am ddim (Deintyddol, optegydd yn ogystal â phresgripsiynau) | Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim |
Credyd Treth Plant a Thriniaeth y GIG am ddim (Deintyddol, optegydd yn ogystal â phresgripsiynau) | Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim. |
Cynllun Incwm Isel y GIG | Y dystysgrif HC2 ar gyfer gofal optegol a deintyddol y GIG am ddim |
Partner rhywun sy’n hawlio budd-dal | Prawf eich bod wedi’ch cynnwys yn y cais am fudd-dal e.e. llythyr dyfarniad i’ch partner yn eich enwi chi yn gynwysedig. |
Hyfforddiant Ieuenctid / Hyfforddiant Cyflogaeth | Llythyr oddi wrth cyflogwr yn cadarnhau eu bod ar Gynllun Hyfforddi Cyflogaeth Hyfforddi Ieuenctid neu. |
Myfyrwyr amser llawn (blwyddyn 12 neu hŷn) | Llythyr swyddogol / Tystysgrif Myfyrwyr o 6ed dosbarth ysgol, coleg neu Brifysgol ar bapur pennawd yn cadarnhau statws addysg amser llawn. |
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth | Y llythyr dyfarniad, neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal |