fbpx

Ar gael i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot

Os ydych yn breswylydd yn Castell-nedd Port Talbot, mynnwch weld a ydych yn gymwys ar gyfer Pasbort i Hamdden.

Dilynwch y rhestr wirio syml hon i weld a allwch ddechrau arbed arian heddiw! Os ydych chi’n ateb YDW i unrhyw un o’r cwestiynau hyn gallwch gyflwyno cais am PTL.

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCC) sy’n Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Pensiwn Gwarantedig
  • redyd Treth Gwaith ac yn meddu ar gerdyn/tystysgrif eithrio credyd treth GIG cyfredol
  • Credyd Treth Plant ac yn meddu ar gerdyn/tystysgrif eithrio credyd treth neu GIG cyfredol
  • Aelod o gynllun incwm isel y GIG ac yn meddu ar Dystysgrif HC2 gyfredol
  • Partner i rywun sy’n hawlio un o’r budd-daliadau uchod ac yn byw yn yr un cyfeiriad ac wedi’ch cynnwys yn eu hawliad am fudd-dal
  • O dan 17 oed ac yn ddibynnydd rhiant/gwarchodwr sy’n derbyn un o’r budd-daliadau uchod
  • 17-19 oed ac mewn addysg amser llawn (statws nid uwch) neu wedi cofrestru ar gwrs hyfforddi ac wedi’ch cynnwys ar gais budd-dal eich rhieni/gwarcheidwad
  • Oedolyn ifanc (o dan 20 oed) sydd mewn addysg amser llawn neu wedi’ch cofrestru ar gwrs hyfforddi ac yn cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Credyd cynhwysol – Os oedd eich enillion yn ystod eich asesiad diwethaf yn:
    • £435 neu lai
    • £935 neu lai, os ydych yn cael elfen ar gyfer plentyn neu os yw’ch gallu i weithio’n gyfyngedig

Os ydych yn rhiant maeth neu’n geisiwr lloches gallech hefyd fod yn gymwys. I gael cyngor ar basport i hamdden, gallwch e-bostio cs@celticleiure.org neu ffonio 08000 43 43 43 rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Bydd angen i chi ddarparu prawf o’r budd-dal rydych chi’n ei hawlio / neu yr ydych chi wedi’ch enwi arno, ynghyd â phrawf diweddar ar wahân o’ch cyfeiriad, fel Treth Gyngor ddiweddar neu fil cyfleustodau.