fbpx

Edrychwch drwy’r tabl isod i bennu pa fath o dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch.

Prawf cyfeiriad
Pob Ymgeisydd: Mae angen prawf cyfeiriad ar gyfer pob ymgeisydd e.e. bil diweddar neu fil Treth y Cyngor. Ar gyfer ymgeiswyr sy’n blant, gall prawf cyfeiriad fod yn llythyr dyfarniad neu’n unrhyw gais am fudd-dal arall sy’n rhestru’r plant ac yn dangos y cyfeiriad cartref. Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau, ffoniwch Swyddfa PTL am gyngor – 08000 43 43 43.

Budd-dal Tai
Llythyr diweddar o’r Adran Budd-dal Tai yn cadarnhau derbyn budd-dal.

Budd-dal Treth y Cyngor
Llythyr diweddar o Adran Treth y Cyngor yn cadarnhau derbyn budd-dal.

Cymhorthdal Incwm
Y llythyr dyfarniad, neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal.

Lwfans Ceiswyr Swydd (yn seiliedig ar incwm)
I brofi Lwfans Ceiswyr Swydd (yn seiliedig ar incwm) mae’n rhaid dangos y llythyr datganiad budd-dal tair tudalen i gyd a roddir pan dderbynnir y budd-dal cyntaf.

Credyd Pensiwn Gwarantedig
Y llythyr dyfarniad neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal.

Credyd Treth i Deuluoedd sy’n Gweithio a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG
Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim.

Credyd Treth Plentyn a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG
Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim.

Credyd Cynhwysol
Y llythyr dyfarnu Credyd Cynhwysol sy’n cadarnhau lefel eich enillion.

Cynllun Incwm Isel y GIG
Y dystysgrif HC2 ar gyfer gofal optegol a deintyddol y GIG am ddim.

17-19 oed mewn addysg llawn amser/hyfforddiant wedi’i enwi ar gais rhieni am fudd-dal
Prawf o statws myfyriwr llawn amser/gynhwysiad ar gynllun hyfforddi a gymeradwywyd (gweler isod) a phrawf eich bod wedi’ch cynnwys ar gais eich rhieni/gwarcheidwaid am fudd-dal:

Wedi cofrestru ar gyfer addysg heblaw addysg uwch:

TGAU a Safon Uwch
NVQ lefel 1, 2 neu 3
Diploma Cenedlaethol BTEC, tystysgrif genedlaethol a Diploma 1af
Tystysgrif Addysg Albanaidd Gradd Uwch neu gyfwerth.

Wedi cofrestru ar gynllun hyfforddiant a gymeradwywyd:
Adeiladu Sgiliau
Prentisiaethau Modern Sylfaenol neu Brentisiaethau Modern

Oedolyn Ifanc a Gynorthwyir
Os ydych chi yn y categori hwn, bydd rhaid i’ch cynrychiolydd Gwasanaethau Cymdeithasol gysylltu â’r Swyddfa PTL i drefnu prawf cymhwyster a mynediad i’r cynllun.

Ceiswyr Lloches
Cerdyn adnabod Swyddfa Gartref y Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches (CCC) neu ffurflen HC2W y GIG neu lythyr caniatâd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru.

I gael cyngor ar basbort i hamdden, gallwch anfon e-bost at cs@celticleisure.org neu ffonio 08000 43 43 43 rhwng 9am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.