fbpx

BYDD TYWYSOG A THYWYSOGES CYMRU YN YMWELD Â CHYMRU DYDD MAWRTH 28 CHWEFROR

Cyn Dydd Gŵyl Dewi, bydd Tywysog a Thywysoges Cymru yn ymweld â De Cymru i hyrwyddo mentrau iechyd meddwl a chwrdd â chymunedau lleol.

Tywysog a Thywysoges Cymru i ymweld â Chanolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan

Bydd eu Huchelderau Brenhinol yn ymweld â Chanolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan i gwrdd â chymunedau lleol a chlywed am sut y gall chwaraeon ac ymarfer corff gefnogi iechyd meddwl a lles. Agorwyd Canolfan Hamdden a Ffitrwydd Aberafan yn 2016 ac mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau corfforol i hyrwyddo ffordd iach o fyw i bobl leol yn Aberafan.

Yn y ganolfan, bydd eu Huchelderau Brenhinol yn mynd ar daith o amgylch y cyfleusterau gan gynnwys neuadd chwaraeon dan do fawr lle bydd pobl ifanc ac athletwyr proffesiynol o Gymru, gan gynnwys Harrison Walsh a Hannah Brier, yn cymryd rhan mewn sesiwn athletau a gymnasteg. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys stiwdio sbin a phwll nofio wyth lôn 25m gyda llawr symudol.

Ar ôl gadael y ganolfan bydd y Tywysog a’r Dywysoges yn treulio peth amser yn cyfarfod ag aelodau’r cyhoedd a gasglwyd y tu allan.