fbpx

Yn dilyn y gostyngiad sylweddol yn y gronfa i gymorth menter nofio am ddim i bobl dros 60 oed, mae’n rhaid i Hamdden Celtic ganolbwyntio ar ddarpariaeth newydd yn ôl cyfarwyddiadau
Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, fydd nofio am ddim yn cael eu gynning i bob oedolyn dros 60 oed sy’n byw yn y cymunedau fwyaf difreintiedig yng Nghyngor Castell Nedd Port Talbot. Mae 12 ardal
ledled y cyngor sydd yn y 10% uchaf ar draws Cymru.

Fydd hawl gan trigolion 60+ y 12 ardal hon i nofio am dddim yn ystod pob sesiwn cyhoeddus ym mhob pwll nofio Hamdden Celtic. Fydd angen i drigolion ddangos tystiolaeth cyferiad a thystiloaeth adnabod i dderbyn mynediad am ddim. Fe fydd ein derbynfa yn gallu cadarnhau y codau post dilys. Bydd trigolion y Cyngor sydd yn derbyn credyd pensiwn hefyd yn gallu hawlio nofio am ddim yn ystod pob sesiwn cyhoeddus. Fydd angen dangos tystiolaeth credyd pensiwn a chyfeiriad.

Mae Hamdden Celtic yn darparu un sesiwn yr wythnos, am ddim, ym mhob pwll nofio i bob person dros 60.

SafleDiwrnodAmser
Canolfan Hamdden AberafanDydd Llun9.00yb - 10.00yb
Canolfan Hamdden Cwm NeddDydd Mawrth11.00yb - 12.00yp
Pwll Nofio PontardaweDydd Iau1.30yp - 2.30yp
Canolfan Hamdden Castell NeddDydd Gwener12.00yp - 1.00yp

 

I bawb dros 60 oed nad ydynt yn derbyn credyd pensiwn neu yn byw mewn gymuned fwyaf difreintiedig fe fydd gostyngiadau i’w gael.

Gostyngiadau ar gael:
£2 i nofio – bloc o 10 sesiwn i ddefnyddwyr bore cynnar ym Mhwll Nofio Pontardawe a Chanolfan Hamdden Castell Need @ £22.
Nofio cyhoeddus drwy debyd uniongyrchol am £21 y mis (i oedolion dros 60 oed yn unig)
Nofio cyhoeddus 6 mis am £126 (i oedolion dros 60 oed yn unig)
Nofio cyhoeddus 12 mis am £231 (12 mis am bris 11 mis, i oedolion dros 60 oed yn unig)

Nid oes amod cynnig sesiynnau strwythuredig i oedolion dros 60 oed ond mae Hamdden Celtic yn ceisio parhau i rhedeg nifer or sesiynnau hon bob wythnos trwy’r gronfa newydd.

Cost y sesiynnau i oedolion dros 60 oed fydd £1 i bob oedolyn, bob sesiwn. Fe fydd yr arian yn sicrhau fod Hamdden Celtic yn gallu parharu i ddarparu gweithgareddau yn y gymuned.

SafleYmarferDiwrnodAmser
Canolfan Hamdden Castell NeddAquaDydd Mawrth12.00yp - 12.40yp
Canolfan Chwareaon Castell NeddFit for LifeDydd Gwener9.00yb - 10.00yb
Canolfan Hamdden Cwm NeddAqua GoldDydd Sul4.00pm - 4.40pm

Os oes gennych rai cyflyrau meddygol megis hanes y galon , problemau anadlol , poen yn y cyhyrau a’r cymalau , ac ati, ac yn dal i ddymuno i fod yn weithgar cliciwch yma